Dylanwadu ar ganlyniad arolwg heddlu arfog
- Cyhoeddwyd

Roedd canlyniadau arolwg barn arlein, oedd yn gofyn am farn y cyhoedd am heddweision Dyfed Powys yn cael yr hawl i gario gynnau tra ar 'ddyletswyddau cyffredin', wedi cael ei ddylanwadu gan grŵp ar wefan gymdeithasol.
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys Christopher Salmon am gael barn pobl ar y mater, felly gofynnodd y cwestiwn mewn holiadur arlein.
Fe wnaeth nifer y pleidleisiau o blaid yr awgrym i gario gynnau gynyddu'n sylweddol ar ôl i'r arolwg gael ei rannu ar dudalen Facebook grŵp One Police UK, sydd gyda 34,000 o ddilynwyr.
Dywedodd Mr Salmon bod hi'n amlwg fod angen "mwy o ymgynghoriad cyhoeddus" ar y mater.
Ymatebion
Fe ddaeth 7,706 o ymatebion i'r arolwg, gyda 61% o blaid gweld heddweision Heddlu Dyfed Powys yn cario gynnau.
Ar 27 Ebrill, pan wnaeth One Police UK gyhoeddi'r arolwg ar eu safle, roedd tua 2,500 o blaid yr awgrym.
Cafodd tudalen One Police UK ei sefydlu yn dilyn llofruddiaeth dau swyddog o'r heddlu ym Manceinion.
Mae gan Heddlu Dyfed Powys 74 o swyddogion sydd yn cario gynnau ar batrôl o ddydd i ddydd.
Mae Mr Salmon nawr yn bwriadu edrych ar ffyrdd o wella arolygiadau barn ar-lein ac edrych ar ffyrdd eraill o fesur barn y cyhoedd.
Straeon perthnasol
- 18 Mai 2015