Hutt: 'Degau o filynau o bunnoedd yn llai eleni'
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Cyllid wedi dweud y bydd gan y Cynulliad "ddegau o filiynau o bunnoedd" yn llai eleni oherwydd toriadau o £3bn Llywodraeth y Deyrnas Gyfun.
Bydd mwy o doriadau'n cael eu cyhoeddi yng Ngorffennaf.
Dywedodd trydariad Ms Hutt: "(Mae'n) anhygoel - dim ond ddoe galwodd y Prif Weinidog ar Gymru i wario mwy ar iechyd ... heddiw mae'r canghellor yn torri ein cyllideb eto."
Mae'r Trysorlys wedi dweud bod llywodraethau datganoledig yn gallu gohirio arbedion tan y flwyddyn nesa.
'Newyddion drwg'
Dywedodd Ms Hutt fod y toriadau'n "newyddion drwg i Gymru" er nad oedd manylion pendant.
"Ond mae'n debyg o fod yn ddegau o filynau o bunnoedd," meddai.
Yn y cyfamser, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod angen "penderfyniadau anodd" er mwyn "sicrhau adferiad economaidd".
Yn gynt dywedodd y Canghellor George Osborne wrth Aelodau Seneddol: "Dyma'r ffordd i greu sicrwydd economaidd i bobl sy'n gweithio."