Leanne Wood yn amddiffyn sefyll mewn dwy sedd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun, Bydd Leanne Wood yn ceisio cael ei hethol mewn sedd ranbarthol ac etholaethol

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi amddiffyn ei phenderfyniad i ymgeisio am ddwy sedd yn etholiadau'r cynulliad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y byddai'n "gwneud popeth" i gael ei hethol yn Y Rhondda ond y byddai'n ceisio amddiffyn sedd Canol De Cymru.

Mae'r gwaharddiad ar ymgeiswyr yn ymgeisio mewn seddi rhanbarthol ac etholaethol wedi cael ei ddileu.

Wrth ymweld â ffatri Toyota yn Sir y Fflint, dywedodd Ms Wood wrth BBC Cymru: "Mae hyn yn rhywbeth 'nes i ddweud sbel yn ôl ... dydi hyn ddim yn newyddion.

"Dw i'n bwriadu sefyll yn Y Rhondda, ble dw i'n byw, ac mi fydda i'n gwneud popeth i geisio ennill y bleidlais gyntaf heibio'r postyn yno.

'Siomedig'

"Ond gan fod y rheolau wedi newid, mi fydda i hefyd yn rhoi fy enw ymlaen ar gyfer y rhestr ranbarthol a dw i'n annog gwleidyddion eraill i wneud hynny hefyd."

Mae Alun Davies o'r Blaid Lafur wedi dweud bod penderfyniad Ms Wood yn "siomedig".

Dywedodd yr AC Llafur Leighton Andrews, sy'n dal sedd Y Rhondda, y byddai'n ymgeisio am sedd etholaethol yn unig.

Y llynedd roedd Ms Wood wedi dweud y byddai hi "fwy na thebyg" yn sefyll fel ymgeisydd rhanbarthol ac etholaethol pe bai'n bosib.

O'r 60 o Aelodau Cynulliad, mae 40 yn cynrychioli seddi etholaethol ac 20 yn cael eu hethol o bum rhestr ranbarthol.