Golau gwyrdd i ganolfan gynadledda yng Nghasnewydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Scott Brownrigg
disgrifiad o’r llunCafodd y cynlluniau gwreiddiol eu cyflwyno dwy flynedd yn ôl

Mae cynghorwyr Casnewydd wedi rhoi sêl bendith i godi canolfan gynadledda ar safle'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Dywed y datblygwyr y bydd y ganolfan yn creu 150 o swyddi ac yn darparu ar gyfer hyd at 4,000 o westeion.

Hon fydd y ganolfan fwyaf o'i bath yng Nghymru a de orllewin Lloegr.

Y gobaith yw agor y safle erbyn haf 2018.

Mae canolfan Celtic Manor eisoes wedi croesawu digwyddiadau o bwys i'r ardal gan gynnwys uwch-gynhadledd Nato a Chwpan Ryder.

Fe fydd yr adeilad yn cynnwys parcio dan y ddaear ar gyfer 700 o geir, fe fydd yna hefyd faes parcio aml-lawr penodol gyda lle ar gyfer 290 o geir.

Cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu cyflwyno ddwy flynedd yn ôl, ac fe gafodd caniatâd cynllunio amlinellol ei gymeradwyo fis Gorffennaf y llynedd.

ffynhonnell y llun, Scott Brownrigg
disgrifiad o’r llunBydd mynedfa'r adeilad newydd yn bennaf o wydr
ffynhonnell y llun, Scott Brownrigg
disgrifiad o’r llunLlun artis o'r adeilad newydd

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol