Gwyntoedd cryfion yn achosi problemau

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun, Fe wnaeth coeden gwympo ar gar yn ardal Mount Pleasant, Abertawe

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn brysur wrth i wyntoedd cryfion a glaw trwm achosi problemau mewn salw ardal yng Nghymru.

Yn ardal Mount Pleasant, Abertawe fe wnaeth coeden gwympo ar gar.

Cafodd gwyntoedd o 78 milltir yr awr eu cofnodi yng Nghapel Curig, tua 20:00 ddydd Llun.

Bu llifogydd mewn rhannau o Rondda Cynon Taf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y byddai'r sefyllfa yn gwella dydd Mawrth, gyda thywydd mwy sych i ddod.

Roedd rhydd melyn 'byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru nos Lun.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun, Tonnau'n taro yn erbyn arfordir de Cymru ym Mhorthcawl
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun, Roedd yr olygfa ym Mhorthcawl yn debycach i'r hydref na diwrnod cyntaf yr haf
Ffynhonnell y llun, Steven Shaun Young
Disgrifiad o’r llun, Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf