Neil Taylor yn arwyddo cytundeb newydd gydag Abertawe

Neil Taylor Image copyright Huw Evans picture agency

Mae amddiffynnwr Cymru Neil Taylor wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd o hyd gydag Abertawe.

Roedd gan y chwaraewr 26 oed flwyddyn yn weddill ar ei gytundeb blaenorol ac roedd West Brom, Aston Villa, Crystal Palace a Real Sociedad wedi dangos diddordeb i'w arwyddo.

Cafodd cynnig i'w brynu gan Palace ei wrthod gan Abertawe ym mis Ionawr.

Mae Taylor wedi sefydlu ei hun fel y cefnwr chwith yn nhîm Abertawe ers i Ben Davies symud i Tottenham Hotspur ym mis Gorffennaf 2014.

Chwaraeodd 36 gwaith i Abertawe tymor yma, gan hefyd ymddangos pum gwaith dros Gymru yng ngemau rhagbrofol Euro 2016.

Mi fydd Taylor ar ddyletswydd rhyngwladol dros y pythefnos nesaf wrth i Gymru baratoi i chwarae Gwald Belg, sydd ar frig Grŵp B, yng Nghaerdydd ar 12 Mehefin.

Yn y cyfamser, mae amddiffynnwr Saint-Étienne, Franck Tabanou, wedi penderfynu ei fod eisiau ymuno gyda'r Elyrch.

Fe geisiodd Abertawe ei arwyddo ym mis Ionawr, ond mae asiant Tabonou bellach wedi dweud ei fod yn disgwyl i'r trosglwyddiad gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf.