Hampshire yn trechu Morgannwg yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Chris Wood yn dathlu cymryd wiced Wayne Parnell o ForgannwgFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Chris Wood yn dathlu cymryd wiced Wayne Parnell o Forgannwg

Fe wnaeth Morgannwg golli am yr ail waith yn olynol yng nghwpan y T20 nos Wener wrth i Hampshire ennill o 21 rhediad yng Nghaerdydd.

Sean Ervine gafodd y sgôr uchaf o 49 i'r ymwelwyr wrth iddyn nhw sgorio 148-8, gyda phedair wiced i Graham Wagg a dwy i Wayne Parnell ar ei ymddangosiad cyntaf dros Forgannwg.

Ar ôl dechreuad sâl i'w batiad, fe wnaeth y capten Jacques Rudolph a Mark Wallace sefydlogi pethau i'r tîm cartref.

Ond fe wnaeth pedair wiced gan Chris Wood helpu Hampshire i gymryd rheolaeth o'r gêm wrth i Forgannwg sgorio 127-8 ar ôl eu hugain pelawd.