Gwaith adfer Tŷ Tredegar ar ôl tân i ddechrau

Tredegar House, Newport Image copyright Robin Drayton
Image caption Ni gafodd y plasdy ei ddifrodi gan y tân

Mae gwaith i adfer gweithdai gafodd eu difrodi gan dân yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd i ddechrau.

Fe gafodd adeiladau ger y plasty o'r 17eg ganrif eu difrodi pan gafodd dân ei gynnau ym mis Rhagfyr 2013, ac fe gafodd rannau mawr o'r to ei ddinistrio.

Fe fydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd wedi bod yn gyfrifol am y tŷ ers 2011, yn cynnal gwaith i adfer edrychiad gwreiddiol yr adeiladau hefyd.

Dywedodd Stephanie Evans o gangen dde-ddwyrain Cymru yr Ymddiriedolaeth: "Mae hi'n hyfryd cael dechrau'r gwaith o'r diwedd.!

Ychwanegodd bod yr adeiladau yn "bwysig iawn yn hanesyddol fel rhan o brofiad Tŷ Tredegar".

Y plasty oedd cartref y teulu Morgan, ddaeth yn Arglwyddi Tredegar yn hwyrach, nes 1951.