Wyau gweilch cors y Dyfi wedi deor

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust
Disgrifiad o’r llun, Fe wnaeth yr ŵy cyntaf ddeor am 18:33 ddydd Gwener

Mae un o dri ŵy a ddodwyd gan walch y pysgod prin mewn safle nythu yng nghanolbarth Cymru wedi dechrau deor.

Mae'r wyau'n eiddo i bâr y Dyfi, Glesni a Monty, gafodd eu gweld am y tro cyntaf eleni yng Ngwarchodfa Cors y Dyfi ar 25 Ebrill.

Mae'r pâr wedi cynhyrchu pedwar ŵy gyda'i gilydd yn y tair blynedd diwethaf.

Fe ddychwelodd Monty a Glesni i'r Dyfi ym mis Ebrill ar ôl treulio'r gaeaf yn Affrica, ac fe ymddangosodd y ddau ar raglen Springwatch y BBC yn 2012.

Mae Monty wedi dychwelyd yn flynyddol i fridio ar safle Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ers 2011.

Mae'r adar ysglyfaethus yn cael eu gwylio'n gyson, a bydd gwe-gamera yn dal y foment pan fydd y wyau yn deor.

Ffynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust
Disgrifiad o’r llun, Mae Monty a Glesni wedi bod yn gori ar eu hwyau ers 25 Ebrill
Ffynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust
Disgrifiad o’r llun, Fel arfer mae'r gweilch i'w gweld yn y wlad yma rhwng mis Ebrill a mis Medi