Cadeirydd Ceidwadwyr Aberconwy yn ymddiswyddo

Guto Bebb
Image caption Fe gafodd Guto Bebb ei gyhuddo o beidio cefnogi'r blaid yn lleol

Mae cadeirydd Cymdeithas Geidwadol leol gafodd ffrae gyda'i AS yn ystod yr ymgyrch etholiadol wedi ymddiswyddo.

Mae Gary Burchett yn camu o'i rôl fel arweinydd y Torïaid yn Aberconwy, gan ddweud mai rhesymau busnes a phersonol sydd y tu ôl i'r penderfyniad.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol fe gafodd ffrae gyda Guto Bebb, gafodd ei ail-ethol fel AS yr ardal.

Fe wnaeth Mr Bebb alw Mr Burchett yn "idiot" ac yn "gywilydd" am honni nad oedd wedi gwneud digon i gefnogi'r blaid yn lleol.

Roedd Mr Burchett wedi dweud wrth Mr Bebb ei fod wedi "treulio'r 18 mis diwethaf yn gwneud esgusodion" ar ei ran.

Fe ddaeth y ffrae i'r amlwg mewn cyfres o e-byst ddaeth i sylw gwefan Golwg 360.