Pont grog yn Llangollen yn ailagor

Pont grog Llangollen Image copyright Chain Bridge Project

Mae pont grog yng ngogledd Cymru wedi ailagor ddydd Iau, wedi iddi fod ar gau ers y 1980au.

Cafodd pont grog Llangollen ei hadeiladu yn 1817 gan y masnachwr glo, Exuperius Pickering, fel ffordd rhad o groesi Afon Dyfrdwy.

Cyngor cymuned Llandysilio-yn-Iâl a chyngor tref Llangollen oedd yn gyfrifol am y prosiect atgyweirio, wedi iddyn nhw brynu'r bont am £1 wedi iddi fynd i gyflwr truenus.

Dywedodd swyddog treftadaeth y bont grog, Samantha Jones, bod y prosiect wedi bod "yn lafur cariad".

Image copyright Llangollen Museum