Dydd Mercher ar faes Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Morgan Hopkins oedd llywydd dydd Mercher, ac roedd i'w weld yn crwydro'r maes gydol y dydd. Roedd Morgan hefyd wedi bod yn cyfarwyddo Sioe Ieuenctid yr Urdd, 'Chwarae Cuddio'.
Ffion Williams o Abergwaun ennillodd y Fedal Ddrama ym mhrif seremoni'r dydd, am ei drama Libersträume, sy'n archwilio perthynas garwriaethol rhwng athro piano a'i ddisgybl.
Dywedodd y beirniaid bod Ffion yn "ddramodydd aeddfed, theatraidd sy'n deall y grefft" ac yn "llwyr haeddu'r Fedal mewn cystadleuaeth dda."
Hefyd yn y pafiliwn, fe gafodd Neges Ewyllys Da Eisteddfod yr Urdd ei chyflwyno.
Taith y Mimosa i Batagonia 150 o flynyddoedd yn ôl oedd ysbrydoliaeth disgyblion Ysgol Cwm Rhymni wrth greu'r neges.
Fe gafodd sawl cyhoeddiad eu gwneud ar y maes ddydd Mercher, gan gynnwys cyhoeddiad yr Urdd eu bod yn ehangu eu cynllun prentisiaethau o fis Medi ymlaen.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael profiad o weithio ym maes chwaraeon, a chynyddu niferoedd y plant sy'n cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon yr Urdd.
Yn ogystal, fe gafodd prosiect newydd i ymchwilio i hanesion rhai o filwyr Cymru fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a heddychwyr y wlad ei gyhoeddi.
Mae cynllun 'Cymru dros Heddwch' werth £1.4m.
Am fwy o straeon am Eisteddfod yr Urdd a'r diweddara' o'r maes, cliciwch yma.