Gwrthdrawiad beic cwad Pontypridd: Dyn yn y llys

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Matthew Bray ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys y Goron fis nesaf

Mae dyn 20 oed wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â gwrthdrawiad rhwng beic cwad a bachgen saith oed.

Ni wnaeth Matthew Bray o Drehopcyn, Pontypridd gyflwyno ple wedi iddo gael ei gyhuddo yn Llys Ynadon Pontypridd o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus, gyrru heb drwydded ac o fethu â stopio ar ôl damwain.

Dywedwyd yn y llys bod y beic cwad wedi taro wal, a bod plentyn yn sefyll y tu ôl iddo.

Fe gafodd y bachgen ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Treforys, Abertawe, a dywed ei fod mewn cyflwr sefydlog, ond bod niwed difrifol i'w goes.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Telelkebir am 18:05 ddydd Mawrth.

Cafodd Mr Bray ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys y Goron fis nesaf.

Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Telelkebir am 18:05 nos Fawrth