Chris Coleman yn cyhoeddi'r garfan i wynebu Gwlad Belg

Coleman
Image caption Bydd Chris Coleman yn gobeithio efelychu llwyddiant Cymru wrth guro Israel 3-0 ym mis Mawrth

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi cyhoeddi'r garfan fydd yn wynebu Gwlad Belg yn eu gêm holl-bwysig yng nghystadleuaeth Ewro 2016 ar 12 Mehefin yng Nghaerdydd.

Y garfan yn llawn ydi:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers), Daniel Ward (Lerpwl), Ashley Williams (Abertawe), James Chester (Hull City) Chris Gunter (Reading) Neil Taylor (Abertawe), Paul Dummett (Newcastle United), Adam Henley (Blackburn Rovers), Ashley Richards (Abertawe), Joe Allen (Lerpwl), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest), Andy King (Leicester City), Shaun MacDonald (AFC Bournemouth), David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Leicester City), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton Athletic), Sam Vokes (Burnley).

Nid ydi James Collins na Ben Davies wedi eu cynnwys yn y garfan oherwydd bod y ddau yn dioddef o anafiadau.

Mae Cymru yn yr ail safle yng Ngrŵp B ar hyn o bryd, gyda Gwlad Belg ar y brig ar wahaniaeth goliau. Fe fyddai llwyddiant i ddynion Coleman yn gam anferth ymlaen yn eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth yr haf nesaf yn Ffrainc, a'r tro cyntaf ers 1958 i Gymru gymhwyso i rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol o bwys.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd Aaron Ramsey a Gareth Bale ar gael i Chris Coleman yn y gêm ar nos Wener 12 Mehefin yn Stadiwm Caerdydd