Munster 21-18 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Munster 21-18 Gweilch
Mewn gornest gyffrous, colli oedd hanes y Gweilch yn erbyn Munster yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle y Pro12 bnawn Sadwrn.
Nawr, bydd Munster yn herio Glasgow yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn nesa'.
Ni chafodd cais gan y rhanbarth yn eiliadau ola'r gêm ei ganiatáu - er i Josh Matavesi groesi'r llinell, fe ddyfarnodd Nigel Owens fod Rhys Webb wedi taro'r bêl ymlaen.
Fe roddodd Simon Zebo a Denis Hurley Munster ar y blaen yn gynnar, er i Ian Keatley fethu nifer o giciau.
Rhoddodd cais Rhys Webb lygedyn o obaith i'r Gweilch, cyn i Paddy Butler sgorio eto i Munster.
Er i Jeff Hassler lwyddo i sgorio cais i'r Gweilch i sicrhau diweddglo cyffrous i'r gêm, fyddan nhw ddim yn parhau i'r rownd derfynol.