Beic jet: Ceisio curo record cyflymder y DU

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Jet reaction

Mae beic wedi ei bweru gan jet yn ceisio cyrraedd cyflymder o 400mya ar draeth yn Sir Gâr er mwyn torri record cyflymder cerbyd dwy olwyn y DU.

Mae Jet Reaction yn cynnal profion ar draeth Pentywyn cyn mynd am y record byd yn yr Unol Daleithiau ym mis Medi.

Fe gafodd y beic - sydd ag injan dyrbin hofrennydd - ei adeiladu gan beiriannydd o Rydychen, Richard Brown.

Mae'n gobeithio curo record Rocky Robinson yn 2010, sef 376mya.

Fe gostiodd y beic £100,000, a chafodd ei adeiladu dros gyfnod o bedair blynedd.

Ffynhonnell y llun, National Motor Museum
Disgrifiad o’r llun,
Syr Malcolm Campbell ar draeth Pentywyn

Mae traeth Pentywyn yn lleoliad poblogaidd ar gyfer digwyddiadau o'r fath.

Fe dorrodd Syr Malcolm Campbell y record byd am gyflymder ar y tir ar 25 Medi, 1924.

Fe gyrhaeddodd 146mya mewn car Sunbeam 250H.

Ffynhonnell y llun, Jet reaction
Disgrifiad o’r llun,
Fe gymrodd hi bedair blynedd i adeiladu Jet Reaction
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r traeth yn boblogaidd ar gyfer digwyddiadau o'r fath