Cwest: Lladd chwaer a mam â bwyell
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod brawd wedi lladd myfyrwraig oedd wedi dod adre i gefnogi ei mam wedi iddo yntau geisio lladd ei hun.
Cafodd Kathryn Jenkin, 20 oed, a Alice McMeekin, 58 oed, eu lladd â bwyell mewn digwyddiad sgitsoffrenig yng nghartre'r teulu yn Millom, Cumbria, ym Mehefin 2013.
Cafodd John Jenkin ddedfryd oes ym Mawrth 2014 am ddynladdiad.
Yn y cwest yn Barrow dywedodd ei ffrind gorau ar y pryd Stacey Giles fod Miss Jenkin o Aberdâr yn "meddwl am bobol eraill".
Cafodd y ddwy eu lladd lai na 48 awr wedi iddo gael ei ryddhau o uned iechyd meddwl.
Yn llawn gwaed
Dangosodd post-mortem fod y ddwy wedi marw o anafiadau i'r pen.
Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi dod o hyd i fwyell oedd yn llawn gwaed mewn stafell wely.
Dywedodd Darren Ball fod Jenkin wedi siarad ag e wedi iddo geisio lladd ei hun mewn gwarchodfa natur.
Roedd Jenkin wedi dweud wrtho: "Dwi'n mynd i ladd Mam ac wedyn fe fydda i'n dod o hyd i le tawel."