Apêl olaf cwpl i achub tŷ eco-gyfeillgar Sir Benfro

roundhouse
Image caption Cafodd y tŷ ei godi heb ganiatad cynllunio

Mae cwpl ifanc o ardal Crymych yn dechrau eu hapêl olaf i geisio rhwystro'r awdurdodau rhag dymchwel eu tŷ crwn yng Nglandŵr, sy'n adeilad eco-gyfeillgar.

Fe wnaeth Charlie Hague a Megan Williams adeiladau eu cartref Pwll Broga am tua £12,000 ond heb ganiatâd cynllunio.

Mae'r ddau yn byw yn y tŷ crwn gyda'u mab Eli, sy'n dair oed.

Ar ôl adeiladu'r safle fe wnaeth y cwpl gais gynllunio am yr adeilad, ond cafodd hwnnw ei wrthod gan gynghorwyr Sir Penfro yr haf diwethaf.

Image copyright Www.simondale.net
Image caption Cafodd y tŷ ei adeiladu gan Mr Hague, sy'n gerflunydd
Image copyright Amanda Jackson
Image caption Deunyddiau naturiol sydd wedi eu defnyddio y tu mewn i'r tŷ

Nawr mae'r cwpl wedi gwneud cais apêl i'r Arolygaeth Cynllunio a bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Cymunedol Hermon, ger Crymych, ddydd Mawrth.

Dywed y cwpwl eu bod yn gobeithio fod eu hadeilad yn cwrdd â'r criteria sy'n cael eu gosod gan gynllun polisi Datblygiad Un Planed.

Yn ôl y cynllun hwnnw mae angen i'r adeilad fod yn hunan gynaliadwy yn nhermau bywyd, ynni ag incwm.

Straeon perthnasol