Dim achos wedi ymchwiliad cartref plant ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Ni fydd unrhyw achos troseddol yn dilyn ymchwiliad i honiadau o gam-drin corfforol gan staff mewn ysgol breswyl ym Mhowys, yn ôl yr heddlu.
Cafodd tri aelod o staff o Gartref ac Ysgol Womaston yn Walton, ger Llanandras, eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plant.
Ond dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd achos llwyddiannus yn debyg.
Roedd Womaston, cartref ac ysgol i blant rhwng 11 ac 19 oed gydag anableddau dysgu fel awtistiaeth, yn cael ei reoli gan elusen MacIntyre.
Caeodd yr ysgol ar 31 Awst, 2014.
Straeon perthnasol
- 22 Hydref 2014