S4C yn symud gemau byw yn ôl i nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Bydd gemau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu dangos yn fyw ar S4C ar nos Sadwrn o'r tymor nesaf ymlaen.
Dywedodd S4C y byddai rhaglen Sgorio yn darlledu gemau o Uwch Gynghrair Cymru am 17:15.
Y llynedd penderfynodd y sianel symud y gêm fyw o ddydd Sadwrn i ddydd Sul i gyd-fynd â lansiad rhaglen chwaraeon Clwb.
Bydd y drefn newydd yn dechrau o 22 Awst ymlaen.
Mae S4C yn dweud y bydd Sgorio yn dechrau am 16:45 "gyda newyddion chwaraeon y dydd a gwasanaeth canlyniadau a rhagolwg o'r gêm".
'Yn falch iawn'
Bydd rhaglen nos Lun, gydag uchafbwyntiau cynghrair La Liga yn Sbaen a gemau Cymru, yn parhau.
Dywedodd Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler fod S4C yn "falch iawn" o gefnogi pêl-droed Cymru.
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Bêl-droed ac Uwch Gynghrair Cymru i ddatblygu'r ddarpariaeth ar gyfer y gystadleuaeth wych hon ac rydym yn edrych ymlaen at osod ein pencampwriaeth bêl-droed genedlaethol wrth wraidd amserlen nos Sadwrn y sianel."
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i S4C am eu cefnogaeth selog i bêl-droed yng Nghymru ac yn hyderus y bydd y slot nos Sadwrn newydd yn denu cefnogwyr i wylio Uwch Gynghrair Cymru."