Anafiadau i weithiwr yng Nghoed-y-Brenin

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Arall
disgrifiad o’r llunYr ambiwlans awyr wedi cyrraedd Coed-y-Brenin

Mae gweithiwr yn yr ysbyty ar ôl cael sawl anaf yng Nghoed-y-Brenin yng Ngwynedd amser cinio.

Y rheswm yw bod coeden wedi cwympo.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ac ambiwlans awyr eu galw oherwydd y ddamwain i'r gogledd o Ddolgellau.

Yn y diwedd hofrennydd Sea King yr Awyrlu aeth â'r dyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

ffynhonnell y llun, Arall
disgrifiad o’r llunHofrennydd Sea King aeth â'r dyn i Ysbyty Gwynedd

Y gred yw iddo dorri ei goes a'i fraich ac iddo efallai dorri ei asennau.