Amelia Jones: Llanc yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder

  • Cyhoeddwyd
Amelia JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Amelia Jones o waedu "difrifol" i'w hymennydd

Mae llanc yn ei arddegau wedi cyfadde' dweud celwydd wrth yr heddlu am lofrudd y babi pump wythnos oed, Amelia Jones.

Roedd y llanc wedi dweud ei fod yn y tŷ pan gafodd y ferch fach anafiadau angeuol yn ei chartre' ym Mhontnewydd.

Ond clywodd Llys Ynadon Caerdydd ei fod "dan bwysau" gan y llofrudd Mark Jones, 45, gafodd ei garcharu am oes yr wythnos ddiwetha' m lofruddio'r ferch fach.

Plediodd y llanc yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder, a chafodd ei gyfeirio gan y barnwr at banel troseddwyr ifanc.

Bu farw Amelia Jones yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ddeuddydd ar ôl ymosodiad arni gan Mark Jones ym Mhontnewydd ym mis Tachwedd 2012.