Dyn yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Bydd dyn 25 oed o'r Wyddgrug gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyhuddiad o geisio llofruddio wedi ymosodiad yn archfarchnad Tesco yn y dref.
Mae Zack Davies wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio Sarandev Bhambra 24 oed o Leeds .
Cafodd Mr Bhambra, deintydd yn wreiddiol o Sir Efrog, anafiadau difrifol yn ystod ymosodiad gyda chyllell macheté a morthwyl ar 14 Ionawr.
Mae'r diffynnydd yn Ysbyty Ashworth, Lerpwl, a bydd yn ymddangos drwy gyswllt fideo.