Cwest: Pum gwaith yn gryfach na heroin

Mae cwest yng Nghaerdydd wedi clywed i ddyn farw wedi iddo gymryd cyffur cyfreithlon sydd bum gwaith yn gryfach na heroin, ac mai hwn oedd y tro cyntaf i'r cyffur gael ei ddarganfod ym Mhrydain.
Cafodd Thaker Hafid, 37 oed, ei ddarganfod yn farw gan ei wraig yn eu cartref yn y brifddinas, wedi iddo gymryd y cyffur oedd wedi'i brynu ar-lein o China.
Cofnododd yr uwch-grwner, Andrew Barkley, gasgliad naratif, gan nodi bod marwolaeth Mr Hafid yn gysylltiedig â chyffuriau.
Credir mai marwolaeth Mr Hafid - oedd yn dad i dri - yw'r cyntaf ym Mhrydain yn gysylltiedig â'r cyffuriau fentanyl asetyl.
Dywedodd y gwenwynegydd Dr Simon Elliott: "Dyma'r tro cyntaf i ni wedi hyn yn y DU
"Mae'n dod mewn powdr gwyn ac yn bum gwaith yn gryfach na heroin a 15 gwaith yn gryfach na morffin".
Aeth ei wraig Nam i edrych amdano yn eu hystafell astudio eu cartref yn y Tyllgoed, Caerdydd, ym mis Chwefror.
Fe wnaeth hi ei ddarganfod yn gorwedd wyneb i lawr ar y llawr.