Paratoi am sioe gelf fwya'r byd
Gan Huw Thomas
Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd y ffotograffydd celf Helen Sear yn cynrychioli Cymru yn arddangosfa gelfyddydol fwya'r byd - Biennale Fenis - fydd yn agor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn, 9 Mai.
Fe fydd Sear - yr artist benywaidd gyntaf i gynrychioli Cymru yno - yn defnyddio fideo a ffotograffau mawr yn ei sioe.
Y coed ger ei chartref yn Sir Fynwy yw testun llawer o'r gwaith fydd i'w weld yn ei harddangosfa, ond mae hi hefyd wedi cael ysbrydoliaeth o ddarlun enwog Andrea Mantegna o Sant Sebastian.
Teitl ei gwaith yw "...the rest is smoke", ac mae'n dod o ysgrifen ar y darlun sydd hefyd i'w weld yn Fenis.
Dywedodd Helen Sear: "Rwy' wrth fy modd - dwi wedi bod yma am dair wythnos yn gosod y gwaith, ac er bod ambell broblem wedi codi mae'r drysau ar fin agor ac mae'n edrych yn union fel yr oeddwn i wedi gobeithio.
"Yr hyn sy'n bwysig i mi yw sut mae'r gwaith yn effeithio ar y gynulleidfa, felly does dim un lle delfrydol i edrych ar y gwaith.
"Mae'r camera - boed yn fideo neu darlun llonydd - yn blaenoriaethu'r llygad uwchben y synhwyrau eraill. Roeddwn i'n ceisio dod â gweddill y corff i mewn i'r weithred o wylio, felly rwy'n ceisio peidio cael un man gwylio arbennig fel bod y gwaith yn newid mewn amryw ffyrdd wrth i chi symud ar draws y gwaith."
Mae beirniaid, perchnogion orielau a ffigyrau dylanwadol ym myd celf yn dod i Venice bob dwy flynedd, ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am ariannu a dewis yr arddangosfa o Gymru, sy'n costio £400,000 dros ddwy flynedd.
Yn ogystal â'r tîm fydd yn gweithio gyda Helen Sear, mae'r cynllun hefyd yn cynnig cyfleoedd i artistiaid a myfyrwyr o Gymru i deithio i'r Eidal er mwyn gweithio fel goruchwylwyr ac i ddatblygu cysylltiadau.
Mae artist arall sy'n byw a gweithio yng Nghaerdydd, Rabab Ghazoul, hefyd yn arddangos ei gwaith yn Fenis eleni - cafodd ei dewis fel un o nifer o artistiaid fydd yn dangos eu gwaith yn stondin Irac yn yr ŵyl.
Mae Ghazoul, a adawodd Irac pan oedd yn 10 oed, yn defnyddio gosodiadau fideo o aelodau'r cyhoedd yn gwrando a dadansoddi tystiolaeth Tony Blair i Ymchwiliad Chilcot i ryfel Irac.
"Rwy' wedi cymryd elfennau o destun a fideo'r dystiolaeth a siarad gyda phobl leol yng Nghaerdydd er mwyn cael eu hymateb mewn ffyrdd gwahanol," meddai.
Bydd y Biennale ar agor i'r wasg a gwahoddedigion yr wythnos hon cyn yr agoriad swyddogol ar 9 Mai, ac fe fydd yn rhedeg tan 22 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- 13 Mehefin 2014
- 1 Mehefin 2013