Awyr dywyll yn Sir Benfro?
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cytuno i gyflwyno 10 safle posib ar gyfer eu hystyried yn 'Safleoedd Awyr Dywyll'.
Fe gafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y statws ddwy flynedd yn ôl.
Mae safleoedd o'r fath yn ardaloedd bychan, hawdd cyrraedd atyn nhw, ar gyfer arsyllu. Mae'n angenrheidiol bod yr awyr yn y nos o ansawdd da, gydag ychydig iawn o lygredd golau.
Mae'r statws yn gydnabyddiaeth ryngwladol fod yr ardal yn lle delfrydol i syllu ar y sêr heb i olau artiffisial darfu ar hynny.
Dim ond un Safle Awyr Dywyll arall sydd 'na yn y parc ar hyn o bryd, yn Ne Aber Llydan.
Gobaith y parc yw denu ffotograffwyr a phobl sy'n ymddiddori yn y sêr.
Bydd y 10 safle nawr yn cael eu hystyried gan Bartneriaeth Darganfod Awyr Dywyll y DU.
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2013