Etholiad 2015: Edrych 'nôl cyn edrych 'mlaen

10 Downing Street Image copyright Reuters
Image caption Os bydd 'na senedd grog, bydd nifer o ffactorau'n penderfynu pwy fydd tu ôl i'r drws yma

Wrth i'r ymgyrchu etholiadol dynnu tua'r terfyn, mae'r trafod wedi troi at yr hyn all ddigwydd ar ôl y bleidlais ddydd Iau - a nifer yn dweud bod Etholiad 2015 yr un anodda' i'w ddarogan ers degawdau. Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, sy'n bwrw golwg yn ôl dros yr wythnosau diwetha' a'r hyn allai ddigwydd wedi 7 Mai.

Pa etholaethau Cymreig yw'r rhai mwyaf ymylol?

Dyw'r diffiniad ystadegol o seddi ymylol ddim o lawer o gymorth i ni eleni oherwydd y cwymp ym mhoblogrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae llefydd fel Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd yn ymylol ar bapur yn unig.

Ar y llaw arall, gallai seddi 'diogel' megis Canol Caerdydd a Cheredigion newid dwylo. Y sedd fwyaf ymylol oll yw Gogledd Caerdydd, gydag ychydig dros 100 o bleidleisiau'n gwahanu'r Ceidwadwyr a Llafur y tro diwethaf. Fe fydd y canlyniad yno yn ddadlennol a dweud y lleiaf.

Faint o effaith mae gwefannau cymdeithasol yn ei gael ar ganlyniad etholiad erbyn hyn?

Dim llawer. Mae rhestrau cyfeiriadau e-bost y pleidiau'n llawer yn bwysicach na Facebook, Twitter a'u tebyg - er bod y rheiny'n rhoi ffyrdd ychwanegol o gydlynu a chyflwyno negeseuon.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Vaughan Roderick fu'n sgwrsio gyda Dylan Jones am y darlun etholiadol yng Nghymru

Mae rhai'n dadlau nad ydi'r etholiad wedi tanio dychymyg y cyhoedd y tro hwn. Ydych chi'n cytuno?

Pwyll pia'i hi mewn etholiad agos. Dyw e ddim yn syndod bod y pleidiau wedi bod yn garcus wrth lunio'u hymgyrchoedd. Osgoi camgymeriadau yw'r flaenoriaeth mewn etholiad fel hwn.

Serch hynny does 'na ddim tystiolaeth o gwbwl bod 'na lai o ddiddordeb eleni na mewn etholiadau blaenorol.

Oes 'na adegau cofiadwy wedi bod yn ystod yr ymgyrchu?

Rwy'n amau mai yn y canolfannau cyfri' y gwelwn ni ddelweddau cofiadwy'r etholiad hwn. Mae'n ddigon posib y bydd 'na sawl 'moment Portillo' nos Iau.

O safbwynt yr ymgyrch ei hun, fe fydd maen llog Miliband yn aros yn y cof ond mae'n debyg taw'r ddelwedd fwyaf cofiadwy yw'r llun o Nicola Sturgeon, Natalie Bennett a Leanne Wood yn cofleidio ar ddiwedd dadl y gwrthbleidiau.

Mae 'na lawer o sôn y gallai hi fod yn senedd grog arall, gyda'r un blaid â mwyafrif clir - beth fyddai'r opsiynau posib o ran ffurfio llywodraeth?

Mae'r opsiynau'n rhy ddirifedi i'w rhestru yn fan hyn ond gallwch ddisgwyl yr annisgwyl a'r cyfan yn dibynnu ar yr union fathemateg.

Y ffordd hawsaf i ddeall yr opsiynau yw meddwl am y ras fel un rhwng dau floc - un ar y dde yn cynnwys y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, y DUP ac UKIP, ac un y chwith sef Llafur, yr SNP, Plaid Cymru, yr SDLP a'r Gwyrddion.

Fe fydd tenantiaeth Downing Street yn cael ei benderfynu gan p'un o'r ddau sy'n cyrraedd y trothwy o 323 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Os mai carfan y chwith sy'n llwyddo, mae'n ddigon posib y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn neidio'r ffens er mwyn cyrraedd cytundeb â Llafur.

Pa mor fuan allwn ni ddisgwyl gwybod pwy fydd mewn grym am y pum mlynedd nesa'?

Fe gymrodd hi bum niwrnod i ffurfio llywodraeth David Cameron yn 2010. Gyda'r sefyllfa o bosib yn fwy cymhleth y tro hwn fe fyddai 10 diwrnod yn darged realistig.

Gwlad Belg sy'n dal y record am y cyfnod hwyaf rhwng etholiad a ffurfio llywodraeth. Yn 2010-11 fe gymerodd hi 589 diwrnod o drafod cyn cyrraedd cytundeb. Go brin ein bod yn wynebu sefyllfa felly!