Achub cerddwr yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn 67 oed ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dioddef o effeithiau'r oerfel ar ôl bod yn cerdded yn Eryri.
Roedd y dyn o Norfolk ymhlith criw o bobl oedd yn cerdded ar fynydd Pen yr Ole Wen.
Fe aeth y criw i drafferthion ar ôl mynd ar goll.
Llwyddodd ei gyfeillion i gysylltu â thîm Achub Mynydd Ogwen oedd yn dychwelyd lawr y mynydd ar ôl bod yn helpu cerddwyr eraill.
Cafodd hofrennydd yr RAF ei galw ac aed â'r dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor.