Austin Seven enwog ar werth

austin7 Image copyright Roger Shea
Image caption Yr Austin Seven yn cael ei gludo ar gwch yn Jaleswar Odisha, India

Efallai bod ychydig o filltiroedd ar y cloc, ond mae hen gar Austin Seven a gafodd yrru o amgylch y byd yn cael ei werthu mewn arwerthiant yn Sir Benfro.

Fe wnaeth y car, math 2 salŵn, o 1937 y daith o 30,000 milltir yn y 1970au.

Ynghyd a'r car, mae 250 o ffotograffau a dyddiadur a gadwyd gan ei berchennog Roger Shea wrth iddo wneud y daith epig yn gynwysedig.

Bydd yr elw o'r gwerthiant yn mynd tuag at Eglwys Sant Jerome yn Llangwm.

Image copyright Roger Shea
Image caption Sir Herbert yn Yugoslavia

Dywedodd, perchennog presennol y car, yr awdur Pam Hunt,: "Mi fydd hi'n anodd ffarwelio a'r car.

"Ond wrth i mi fynd yn hŷn ac arthritis yn cydio ynof, rwyf wedi penderfynu ei werthu."

Mae'r dyddiadur o'r daith o amgylch y byd yn disgrifio teithio trwy Iran ac Afghanistan a chroesi'r llinell flaen yn y rhyfel rhwng India a Pacistan.

Mae'r arwerthiant elusennol yn digwydd yn Neuadd Bentref Llangwm nos Sadwrn.

Image copyright Roger Shea
Image caption Y car yn cael ei lwytho ar gwch yn Singapore