Efrog 0-2 Casnewydd

Efrog v Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Di-fflach a di-sgôr oedd yr hanner cyntaf, er gwaethaf ambell i gyfle i Gasnewydd.

Ond newidiodd pethau yn yr ail hanner wrth i David Tutonda sgorio i Gasnewydd wedi 49 munud.

Dyblodd yr ymwelwyr eu mantais yn hwyr yn yr ail hanner, diolch i gôl gan Lee Minshull, wrth i Gasnewydd sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.