Heddlu yn ymchwilio ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu ym Mhontypridd wedi cau ffordd yn dilyn digwyddiad yn y dref.
Hefyd mae'r fynedfa i'r maes parcio y tu allan i Glwb Rygbi Pontypridd wedi ei chau i'r cyhoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad oedd modd rhyddhau unrhyw fanylion ar hyn o bryd gan fod yr ymchwiliad newydd ddechrau.
Mae plismyn wedi bod yn chwilio yn y llwyni, ac mae hofrennydd y llu wedi bod yn brysur yn chwilio o'r awyr.
Mae yna o leiaf bedwar o gerbydau'r heddlu a 10 plismon ar y safle rhwng Ffordd Sardis a Lanelay Crescent.
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Rygbi Pontypridd: "Y cyngor i gefnogwyr, partneriaid a chymdogion clwb Pontypridd yw nad oes mynediad i stadiwm Ffordd Sardis ar hyn o bryd.
"Mae hynny oherwydd ymchwiliad i'r heddlu i ddigwyddiad o bwys yn yr ardal."