Diwrnod Cymru Fyw yng Ngheredigion

pabell etholiad tregaron

Wrth yrru ar hyd lonydd gwledig Ceredigion mae 'na fwy na jest gwair a defaid i'w gweld yn y caeau. Mae yna bosteri ym mhob man - oren yw'r mwyafrif, rhai i Blaid Cymru ac ambell un i'r ymgeiswyr Llafur ac UKIP.

Yn ôl John Jones, sydd yn brifathro yn yr ysgol gynradd leol, mae'r sir "yn tueddu i bleidleisio i'r person yn hytrach na'r blaid." Mae'n dweud bod yna hen ddywediad yn y sir ei bod hi'n well os yw pobl yn dewis yr un blaid â'r un sydd mewn grym yn San Steffan am eu bod nhw wedyn yn elwa mwy.

Er bod gan y prifathro ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, nid dyna ydy barn nifer wnes i holi yn Nhregaron. Amharod oedd sawl un i siarad. "Does dim diddordeb gyda fi mewn gwleidyddiaeth," meddai un dyn wrth gerdded oddi wrtha'i.

"'Se nhw yn rhoi mwncis 'na fydde fe ddim yn gwneud gwahaniaeth," meddai perchennog garej. Dydy o ddim yn mynd i bleidleisio. A does gan y rhai eraill sydd yn gweithio yno fawr i ddweud wrth wleidyddion chwaith.

Image caption Mae gan y prifathro, John Jones ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth

'Meibion milionêrs'

Cwyno eu bod nhw dan straen fel busnes mae'r staff. "Yn Scotland mae nhw yn rhoi 5p by litre subsidy. Pam ddim gwneud 'na fan hyn? Ma Aberystwyth yn gwerthu fe'n rhatach na beth fi yn prynu fe amdano," meddai'r perchennog. Dydy o ddim yn meddwl y byddan nhw ar agor am fawr hirach.

Wrth gerdded ar hyd y ffyrdd, tawel iawn yw hi yma. "Na'r oes ni'n byw yno fe," meddai'r cigydd Gary Jones sydd yn beio'r archfarchnadoedd.

"Meibion i milionêrs yw nhw," meddai wrth drafod Aelodau Seneddol San Steffan. "Dyw nhw ddim yn gwybod beth yw bywyd go iawn... Ma isie iddyn nhw ddod mas i gefn gwlad i weld shwt ma pobl yn byw."

Dydy Gwynfor Evans sydd yn 18 oed ddim yn meddwl eu bod nhw yn codi llais digon ar gyfer etholwyr cefn gwlad. "Yn yr House of Commons gallen nhw fod yn fwy swnllyd," meddai. Amaethyddiaeth ydy un o'r materion sydd o bwys iddo fo.

Taro'r Post

A dyna oedd un o'r pynciau gafodd ei drafod ar Taro'r Post heddiw gydag ymgeiswyr a chynrychiolwyr y pleidiau.

Yn ôl Mike Parker, ymgeisydd Plaid Cymru, does yna ddim digon o son wedi bod yn yr etholiad am faterion ffermio. Mae'n dweud bod y sector nid yn unig yn bwysig ar gyfer cynhyrchu bwyd ond hefyd yn ddiwylliannol.

Mae Huw Thomas, yr ymgeisydd Llafur yn dweud bod angen llywodraeth fydd yn "sefyll lan i'r cwmnïau mawr" ac yn teimlo y gallai Cymru fod ar flaen y gad yn y ffordd mae'n marchnata bwydydd ar draws y byd.

Yn ôl Gethin James, ymgeisydd UKIP, mae angen trio cadw ffermydd yn fach ac yn lleol tra bod Elizabeth Evans, sydd yn gynghorydd gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn teimlo bod angen edrych ar ddatblygu ffermydd sir.

Image caption Yr ymgeiswyr yn cael eu holi gan Garry Owen

Mae Julianna Hughes sydd yn Geidwadwraig yn dweud bod hi ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn anodd i amaethwyr ond bod angen i bobl ddewis plaid "sy'n hoff o amaeth" ac y byddan nhw wedyn ar y "stepen iawn".

Mi oedd 'na sawl pwnc yn codi yn ystod y drafodaeth radio amser cinio. Yr un peth oedd hi wrth holi hwn ag arall ar y stryd - iechyd, diffyg gwasanaethau, ysgolion, tai.

Ond mi oedd un thema yn amlwg - bod gwleidyddion yn anghofio am y caeau gwyrddion.

"Y teimlad yw bod cefn gwlad yn cael ei amddifadu, rhwygo o hyd. Coridor yr M4 yw popeth," meddai John Jones.