Apêl Carwyn Jones i'r 'mwyafrif gwrth-Dorïaidd'
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi annog y "mwyafrif gwrth-Dorïaidd yng Nghymru" i gefnogi Llafur yn etholiad cyffredinol mis Mai.
Cyn araith yn Rhydaman ddydd Gwener, dywedodd Mr Jones bod "cynghrair" o bleidleiswyr yn adeiladu i "gael gwared ar y Torïaid".
Yn y cyfamser, mae prif weithredwr cwmni Iceland, sydd wedi'i leoli yn Sir y Fflint, wedi egluro pam ei fod yn cefnogi'r Ceidwadwyr.
Rhybuddiodd Malcolm Walker y gallai newid cyfeiriad "beryglu popeth sydd wedi'i gyflawni mewn twf a chreu swyddi".
Fe fydd yn cyfarfod â llefarydd y blaid dros Gymru, Stephen Crabb, ym mhencadlys Iceland yn Sealand yn hwyrach.
Roedd Mr Walker yn un o'r 100 o arweinwyr busnes wnaeth arwyddo llythyr agored yn cefnogi polisïau economaidd y Ceidwadwyr yn gynharach yn y mis.
Yn siarad cyn y cyfarfod ddydd Gwener, dywedodd bod angen llywodraeth sy'n "deall a chefnogi anghenion busnes, darparu sefydlogrwydd economaidd, rhoi twf yn ganolbwynt i'w cynlluniau a chreu amodau sy'n helpu busnesau i lwyddo".
"Rwy'n credu y gallai troi i ffwrdd o'r cyfeiriad rydyn ni wedi ei ddilyn am y pum mlynedd ddiwethaf beryglu popeth sydd wedi'i gyflawni mewn twf a chreu swyddi," rhybuddiodd.
Ond dywedodd Mr Jones mai newid cyfeiriad oedd beth mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru eisiau, a bod nifer o etholwyr yn symud i gefnogi Llafur.
"Fe fydd y mwyafrif llethol o etholwyr, hyd at 75% ohonyn nhw yng Nghymru, yn mynd i bleidleisio mewn llai na dwy wythnos gydag un peth mawr yn gyffredin - maen nhw eisiau diwedd ar reolaeth Dorïaidd yn San Steffan," meddai.
Hefyd ddydd Gwener, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn galw ar bobl ifanc i roi llwyfan i'w lleisiau ac ymuno â'i phlaid.
Dywedodd Ms Wood, fydd yn ymgyrchu yn Aberystwyth, ei bod wedi gweld y "chwyldro democrataidd" yn ystod refferendwm annibyniaeth Yr Alban.
"Fe wnes i siarad gyda nifer o bobl 16 a 17 oed yn Yr Alban oedd gan yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf," meddai.
"Rwy'n gwybod bod gan bobl ifanc yma yng Nghymru'r un awydd i newid y system fel y gwnaethon nhw yn Yr Alban."