Dau yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio yn Nhonypandy

Wayne Letherby Image copyright South Wales Police
Image caption Bu farw Wayne Letherby yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Pontypridd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn o Donypandy nos Wener.

Fe wnaeth Dean Doggett a Jamie Leyshon, y ddau yn 26, siarad i gadarnhau eu henwau a'u cyfeiriadau yn unig yn y gwrandawiad byr.

Clywodd ynadon bod y ddau wedi eu cyhuddo ar y cyd o lofruddio Wayne Letherby, 42, a hefyd o gyhuddiad o anafu.

Bydd y ddau ddyn yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful, fydd yn eistedd yng Nghaerdydd, ddydd Iau.

Cafodd y ddau ddyn eu cadw yn y ddalfa.

Straeon perthnasol