Ydych chi'n Siôr o'ch ffeithiau?
- Cyhoeddwyd

Sant Siôr yn fewnfudwr?
Mae'r Saeson heddiw yn dathlu diwrnod eu nawddsant - Sant Siôr, felly mae Cymru Fyw wedi mynd i chwilio am ambell i ffaith ryfeddol ac anarferol am ein cymdogion dros Glawdd Offa.
- Doedd Sant Siôr ddim yn Sais. Erbyn hyn, y grêd yw fod e wedi'i eni yn Lod, Israel. Mae Sant Siôr hefyd yn nawddsant Brasil, Catalwnia, Ethiopia, Georgia, a Portiwgal.
- Caerfaddon yw'r unig ddinas yn Lloegr sydd ar restr Ddinas Treftadaeth Byd UNESCO.
- Yn 1894, roedd 'The Times' yn rhagweld y byddai Llundain o dan naw troedfedd o wrtaith ceffyl erbyn 1950.
Llundain yn 1950
- Y dyn olaf i fod berchen ar rif 10 Downing Street cyn i Brif Weinidogion ddechrau byw yna oedd gŵr o'r enw Mr Chicken.
- Am bron i 300 mlynedd (rhwng 1066 a 1362) Ffrangeg oedd iaith swyddogol Lloegr.
- Dim ond unwaith erioed mae camel wedi cael ei ladd gan fellten yn Lloegr, hyd y gwyddon ni... cafodd y digwyddiad anffodus ei gofnodi ym Mharc Saffari Knowsley yn y West Midlands yn 1997.
Ffynhonnell y llun, PA
Dim ond y Saeson fyddai'n rhuthro i lawr bryn ar ôl tamed o gaws!
- Mae'n debyg bod yr arferiad o rowlio darn o gaws i lawr Cooper's Hill yn Sir Gaerloyw wedi bod yn draddodiad ers 1826. Erbyn hyn mae pobl o bob cwr o'r byd yn ymrafael gyda'r Saeson am y cosyn o Double Gloucester. Ond y cwestiwn mawr ydi pwy gafodd y syniad hurt yn y lle cynta'?
- Nid y Ffrancwyr oedd y cyntaf i gynhyrchu siampên yn 1662, ond Sais o'r enw Christopher Merret. Fe wnaeth Merret hefyd ddyfeisio gwydr cryf sy'n angenrheidiol i ddelio efo'r gwasgedd o gynhyrchu'r bybli!
Does neb erioed wedi bod yn sicr beth yw ŷd na llêd yr ŵyl hon!
- Ar gyfartaledd mae gan bobl yn ne Lloegr draed mwy na phobl yng ngogledd Lloegr.
- Cafodd y sŵ cyhoeddus cyntaf yn y byd ei agor yn Llundain yn 1829.
- Mae Gŵyl y Straw Bear yn cael ei chynnal yn Whittlesey, Sir Caergrawnt pob mis Ionawr. Roedd hi'n arferiad i was fferm lleol gael ei orchuddio mewn gwellt ac yna dawnsio yn y pentre' er mwyn cael rhoddion o fwyd a diod i'w rhannu rhwng gweithwyr fferm eraill. Syniad arall gwallgof? Gwellt peidio gofyn!
- Yn 1811 Mary oedd enw bedydd chwarter y merched a oedd yn byw yn Lloegr.