Tu ôl i'r llwyfan: Côr Cymru

Cyhoeddwyd

Roedd hi'n noson fawr yn Aberystwyth ar 19 Ebrill wrth i ffeinal Côr Cymru gael ei chynnal. Y ffotograffydd Iestyn Hughes o Bow Street fu'n tynnu'r lluniau unigryw yma tu ôl i'r llenni. Mi gewch chi ragor o hanes y cystadlu yn ein hadran Newyddion.

ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunY gynulleidfa yn cyrraedd ar gyfer gwledd o ganu
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunCyfle ola' i diwnio'r offeryn
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunDesg y beirniaid yn barod wrth i'r ymarferion munud ola' barhau
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunDydi hi ddim yn dasg hawdd cael pawb o'r côr yn y llun!
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunMae rhai'n canu emynau wrth ddisgwyl am y canlyniadau
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunGwaith sychedig yw'r busnes canu 'ma
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunUn o'r cyflwynwyr, Heledd Cynwal yn mwynhau'r canu wrth ochr y llwyfan
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunUn o gantorion y dyfodol!
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llun"Pob lwc ferched!"
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunSelffi, neu selffgôr yn yr achos yma!
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunHir yw pob ymaros medden nhw!
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunMae'n amser dathlu i gôr Heol y March!
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunWyneb cyfarwydd yn llongyfrach y cantorion ifanc. Caryl Parry Jones wrth ei bodd efo llwyddiant Côr Heol y March, Bro Morgannwg
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunCantorion Heol y March wedi gwirioni gyda'r tlws