Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae llanc 15 oed wedi cael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth gan heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig ger Caerfyrddin.
Cafodd yr heddlu eu galw i fwyty McDonalds ym Mhensarn am tua 09:55 fore Sul, 19 Ebrill.
Deellir bod y ferch a ddioddefodd yr ymosodiad o oed ysgol gynradd - hynny yw 11 oed neu iau.
Mewn datganiad fore Llun dywedodd Heddlu Dyfed Powys:
"Mae'r heddlu yng Nghaerfyrddin yn ymchwilio i honiad o ymosodiad rhyw ar ferch ifanc yn McDonalds Pensarn, Caerfyrddin, a ddigwyddodd fore Sul.
"Fe ymatebodd yr heddlu i alwad ac fe gafodd y safle ei gau am gyfnod er mwyn cynnal archwiliad fforensig.
"Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth a chymorth i'r ferch a'i mam.
"Fe gafodd bachgen 15 oed ei arestio a'i rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau."
Mae llefarydd ar ran McDonalds wedi dweud eu bod yn cydweithio gyda'r heddlu fel rhan o'r ymchwiliad.