Ymarfer NATO yn cymryd lle dros dde Cymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, DANNY REES

Mae dwsinau o awyrennau a hofrenyddion wedi bod yn cymryd rhan mewn ymarfer milwrol dros dde Cymru dros y penwythnos.

Gwelodd ymarfer Joint Warrior NATO hofrenyddion fel y Chinook, Apache, Lynx a Merlin yn hedfan o safle Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

Mae'n rhan o ymarfer ledled y DU sydd wedi gweld tua 1,500 o filwyr yn teithio i dde Cymru ar ei gyfer.

Mae cyfanswm o thua 13,000 o bobl o 14 o wledydd yn cymryd rhan.

Ffynhonnell y llun, DANNY REES
Ffynhonnell y llun, @IC_FW