Caerlŷr 2-0 Abertawe

Caerlŷr v Abertawe Image copyright Getty Images

Bydd rhaid i Abertawe ddisgwyl o leiaf wythnos arall i ennill eu cyfanswm uchaf erioed o bwyntiau yn yr Uwchgynghrair wrth iddyn nhw golli o 2-0 yn erbyn Caerlŷr yn Stadiwm King Power brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm ar waelod y tabl ar y blaen yn gynnar, gyda'r ymosodwr Leonardo Ulloa yn rhwydo ar ôl 15 munud.

Cymro ychwanegodd yr ail i'r tîm cartref, wrth i Andy King gymryd mantais o gamgymeriad gan y golwr Lukasz Fabianski i rwydo.

Mae'r Elyrch yn aros yn yr wythfed safle yn y tabl oherwydd y canlyniad, gyda Chaerlŷr yn codi i 18fed.