Perchennog ci aeth ar goll wedi hel £7,000

Sylvia Image copyright Janice Bannister
Image caption Fe aeth Sylvia, y Shiba Inu o Japan, ar goll ar draeth ar Ynys Môn

Mae perchennog ci oedd wedi llogi hofrennydd i chwilio am ei anifail anwes pan aeth ar goll ar Ynys Môn wedi codi £7,000 i wylwyr y glannau fu'n helpu i chwilio amdani.

Disgwylir tua 60 o bobl gyda hyd at 100 o gŵn i ymuno â Janice Bannister i gyflwyno'r siec ddydd Sadwrn er cof am Sylvia y ci.

Yna, byddant yn cerdded at y fainc goffa a godwyd er cof amdani.

Daethpwyd o hyd i'r ci Shiba Inu o Japan wedi boddi ychydig filltiroedd o ble diflannodd hi ar draeth Niwbwrch ar arfordir gorllewinol yr ynys.

Fe wariodd Mrs Bannister £750 ar logi hofrennydd i chwilio'r ardal am y ci.

Fe ymunodd pobl o bob rhan o'r DU i helpu i chwilio am Sylvia ar ôl i'r stori gael sylw ar y cyfryngau.