Tân mynydd yn lledu
- Cyhoeddwyd

Mae modd gweld y tân o Fae Caerdydd
Mae diffoddwyr yn ymladd tân mawr yng nghwm Rhondda, lle mae tua 1,000 o hen deiars yn llosgi.
Ymledodd y tân o'r mynydd i'r safle ar dir ffarm yn ardal Wattstown.
Mae modd gweld y tân o Fae Caerdydd, ac mae mwg yn lledu dros bellter o ddeg milltir.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân mynydd, 30 hectar, yn Ynyshir tua 13:30, ac yna cafwyd gwybod am y tân teiars am 17:19.
Mae criwiau o'r Porth, Tonypandy, Ferndale a Phontypridd ar y safle.
Yn y cyfamser mae diffoddwyr hefyd yn ymladd tân gwair ar 30 hectar o dir yn ardal Abertyleri.