Ymosodiad Pontardawe: Arestio am geisio lladd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 18:02 nos Fawrth
Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio lladd ar ôl i'w mam gael ei thrywanu nifer o weithiau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yn Heol Gwyrddgoed ym Mhontardawe am 17:45 ddydd Mawrth.
Mae dynes 63 oed wedi cael ei chymryd i Ysbyty Treforys Abertawe ble mae ei chyflwr yn ddifrifol ond sefydlog.
Mae ei merch 32 oed wedi cael ei rhyddhau i ofal y gwasanaethau iechyd ar ôl cael ei chadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, yn ôl Heddlu'r De.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Trudi Meyrick o Heddlu Castell-nedd Port Talbot: "Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn sydd wedi rhoi ysgytwad i'r gymuned."
Roedd disgwyl i brofion fforensig gael eu cynnal ddydd Mercher ac i heddweision gwestiynu'r gymuned am unrhyw wybodaeth.