Caniatâd i rwystrau ar ffordd yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bu farw Sarjant Louise Lucas ar ol iddi gael ei tharo gan fws ar Ffordd y Brenin ar 31 Mawrth
Mae Cyngor Abertawe wedi caniatáu rhwystrau dros dro ar Ffordd y Brenin yn y ddinas wedi damwain bws laddodd blismones.
Bu farw Sarjant Louise Lucas ar ôl iddi gael ei tharo gan fws ar y ffordd ar 31 Mawrth.
Mae galwadau wedi bod am "weithredu brys" i wella diogelwch.
Fe wnaeth y cabinet hefyd gymeradwyo cynllun fydd yn rhwystro traffig i gyfeiriad y dwyrain ar y lôn fysiau.
Ar hyn o bryd mae traffig yn teithio i un cyfeiriad ar un ochr y ffordd ddeuol ac i'r ddau gyfeiriad ar yr ochr arall.
Y Comisiynydd Traffig fydd yn gorfod cytuno ar unrhyw newidiadau i lwybrau bysiau yn y ddinas.