2 Sisters: Gobaith o achub swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae 'na obaith y bydd modd achub dros 60 o swyddi mewn gwaith prosesu cywion ieir yn Llangefni, Ynys Môn.
Ond bydd yn rhaid i weithwyr yn ffatri Two Sisters dderbyn newidiadau i'w hamodau gwaith er mwyn i hynny ddigwydd.
Roedd 'na bryderon y gallai cannoedd o swyddi ddiflannu, ond mae swyddogion undeb yn obeithiol mai dim ond dyrnaid o ddiswyddiadau gorfodol fydd yna os bydd y cynllun yn cael ei dderbyn gan y gweithlu.
Bydd gweithwyr yn pleidleisio ar y cynnig dros y deuddydd nesa'.
Yn wreiddiol, roedd dros 280 o swyddi dan fygythiad, yn cynnwys bron i 170 o staff dros dro sy'n cael eu cyflogi gan asiantaeth. #
Y gobaith ydi y byddan nhw'n cael cynnig gwaith yn safleoedd eraill y cwmni, gyda 40 o weithwyr yn derbyn diswyddiad gwirfoddol, a thua 15 arall yn colli eu gwaith.
Straeon perthnasol
- 13 Ebrill 2015
- 23 Chwefror 2015
- 20 Chwefror 2015