Cymru mewn rhifau
- Cyhoeddwyd

Mae yna rifau wedi eu cuddio yn nifer o enwau lleoedd Cymru. Mae rhai ohonyn nhw'n amlwg iawn, fel AberystWYTH, ond mae 'na rai digon anodd i'w darganfod hefyd. Rhowch gynnig ar y rhai yma, mae'r atebion isod.
1. RHUTH...
(a) NAW
(b) DRI
(c) UN
2. LLAN...SAINT
(a) PUM
(b) TAIR
(c) WYTH
3. BRYN...MARCHOG
(a) TRI
(b) SAITH
(c) CHWECH
4. CARREG ... LLYN
(a) WYTH
(b) TRI
(c) NAW
5. YSBYTY YST...
(a) UN
(b) WYTH
(c) DDEG
6. PEN...HEOL
(a) TAIR
(b) PEDAIR
(c) DWY
7. MA...
(a) DWY
(b) THRI
(c) NAW
8. ...ANWY
(a) DWY
(b) PUM
(c) DEG
9. LLANYSTUM...
(a) DEG
(b) NAW
(c) DWY
10. CHWAREL LLE...DD
(a) DWY
(b) NAW
(c) CHWE
Atebion
1. RhuthUN, Sir Ddinbych, ond wyddoch chi fod 'na un arall ger y Bontfaen ym Mro Morgannwg?
2. LlanPUMsaint, Sir Gâr. Fedrwch chi enwi'r seintiau?
3. Bryn SAITH Marchog, Sir Ddinbych sydd tua SAITH milltir o RhuthUN!
4.Carreg NAW Llyn, Ceredigion. Rhowch NAW marc ychwanegol i chi'ch hun am enwi'r llynnoedd!
5. Ysbyty YstWYTH, Ceredigion. Roedd hwnna yn hawdd yn doedd?
6. PenPEDAIRHeol ger Caerffili. Mi gewch chi ddarn o gaws am gael hwnna yn gywir.
7. MaTHRI, Sir Benfro. Gobeithio bod y dewis o DRI wedi bod o help!
8. DEGanwy, Conwy.Fydda hi ddim yn DEG i ni beidio dangos llun i chi ...
9. LlanystumDWY, Gwynedd. Mae'r cyfri yn gywir! Mi fyddai Lloyd George wedi eich penodi chi i swydd gyfrifol yn y Trysorlys mae'n siwr!
10. Chwarel LleCHWEdd, Blaenau Ffestiniog.Os cawsoch chi hwn yn anghywir well i chi fynd i guddio dan ddaear am sbel!
Straeon perthnasol
- 2 Tachwedd 2015
- 6 Chwefror 2015