Sychwr dillad yn achosi tân yn Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yn rhaid i drigolion adael yr adeilad ar stad Llys Clyne yn Sgeti

Bu criwiau'n delio gyda thân mewn fflatiau yn Abertawe oriau mân fore Iau, a gafodd ei achosi gan sychwr dillad.

Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty wedi iddo ddioddef effeithiau anadlu mwg ar ôl y tân mewn fflat yn Sgeti.

Mae'r tân wedi ei ddiffodd erbyn hyn, ond bu'n rhaid gwagio rhan o'r adeilad 11 llawr pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 05:00.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Chanolbarth Cymru wedi rhybuddio am beryglon defnyddio peiriannau sychu dillad dros nos.

Ffynhonnell y llun, Tan
Disgrifiad o’r llun,
Y difrod y tu mewn i'r fflatiau