Canslo teithiau awyr Caerdydd a Pharis oherwydd streic
- Cyhoeddwyd

Mae teithiau awyren rhwng Caerdydd a Pharis wedi eu canslo oherwydd streic gweithwyr maes awyr yn Ffrainc.
Fe wnaeth Maes Awyr Caerdydd rybuddio y byddai 'na effaith ar hediadau tan 05:00 fore Gwener.
Mae teithwyr yn cael eu cynghori i gysylltu gyda chwmnïau hedfan.
Mae undeb SNCTA, yr un mwyaf yn Ffrainc, yn gweithredu fel rhan o anghydfod amodau gwaith.
Yn y cyfamser, mae ffigyrau'n dangos bod nifer y teithwyr ddefnyddiodd Maes Awyr Caerdydd 48,000 yn llai na 2014, hynny yw ychydig dros 1m.
Straeon perthnasol
- 25 Mawrth 2015
- 4 Mawrth 2015