Etholiad: 30 diwrnod i fynd
- Cyhoeddwyd

Mae'r ymgyrchu ar droed unwaith eto wedi penwythnos y Pasg, gyda 30 diwrnod i fynd nes yr etholiad ar 7 Mai.
Mae gan y pum prif blaid ddigwyddiadau wedi eu cynllunio ledled Cymru.
Ar gyfer y Ceidwadwyr, fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn ymweld â Chymru fel rhan o'i daith o amgylch pedair cenedl y DU mewn un diwrnod.
Mae disgwyl iddo ddweud bod yr economi yn tyfu ledled y DU, ac y byddai llywodraeth dan reolaeth Ed Miliband yn "drychineb", gyda "mis i achub Prydain o ddyled".
Yn Sir Drefaldwyn, mae disgwyl i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg drafod cynlluniau am ragor o arian i'r gwasanaeth iechyd.
Mae'r blaid yn dweud fod eu haddewid i roi £8 biliwn i'r Gwasanaeth Iechyd yn golygu £450m yn ychwanegol i Gymru - i'w wario ar ragor o nyrsys a gwasanaethau iechyd meddwl.
Fe fydd llefarydd y blaid Lafur ar Waith a Phensiynau yn dweud wrth bleidleiswyr ym Mro Morgannwg bod ganddyn nhw "fis i gael gwared ar y 'dreth ystafell wely'".
Yn ôl y blaid Lafur, bydd y dreth yn effeithio ar 70,000 yn rhagor o deuluoedd yng Nghymru yn y pum mlynedd nesa'.
Mae Plaid Cymru'n lansio mini-maniffesto ar Ynys Môn, gydag addewid i wella cefnogaeth i ffermwyr.
Yn ogystal, mae'r blaid yn galw am welliannau i wasanaeth band-eang, prisiau tanwydd a gwasanaethau post mewn ardaloedd gwledig.
Mae UKIP Cymru yn cynnal rali i feithrin cefnogaeth yn Abertawe.