Remploy yn dathlu pen-blwydd yn 70 oed
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Remploy, sy'n darparu cyfleoedd gwaith i bobl anabl, yn dathlu pen blwydd arbennig a "dechrau newydd".
Ddydd Mawrth, mae'r gwasanaeth yn gadael perchnogaeth y llywodraeth.
Wrth adael y sector cyhoeddus, mae Remploy yn creu partneriaeth rhwng MAXIMUS - cwmni rhyngwladol sy'n darparu gwasanaethau iechyd a chyflogaeth - a gweithwyr Remploy, fydd â chyfran o 30% yn y busnes.
Yn rhan o'r dathliadau, mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yng nghangen y cwmni yn Abertawe ble bydd 70 o falŵns yn cael eu rhyddhau i'r awyr i nodi'r achlysur.
Fe gafodd Remploy ei sefydlu wedi'r Ail Ryfel Byd i ddarparu hyfforddiant a gwaith i filwyr wedi eu hanafu a glowyr anabl.
Yn ei anterth, roedd ffatrïoedd y cwmni yn cyflogi 10,000 o bobl anabl.
Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae'r cwmni wedi canolbwyntio ar ganfod gwaith i bobl mewn mannau eraill.
Ers 2010, mae Remploy wedi canfod swyddi i bron i 100,000 o bobl.