Gohirio dileu dyled Clwb Criced Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae ymdrechion i aildrefnu dyledion Clwb Criced Morgannwg wedi cael eu gohirio oherwydd her funud olaf gan gynghorydd.
Dywedodd y cadeirydd Barry O'Brien wrth gyfarfod blynyddol y clwb ddydd Mawrth y gallai apêl gan un cynghorwr orfodi'r mater yn ôl at y cabinet.
Dywedodd ei fod yn golygu na all y cyfrifon gael eu cadarnhau.
Fe wnaeth Cyngor Caerdydd gadarnhau bod cynghorydd wedi galw dyfarniad y cabinet i mewn, fel sy'n cael ei ganiatáu dan ei gyfansoddiad.
Roedd y clwb yn meddwl bod yr awdurdod wedi cytuno i gael gwared ar eu dyled yn barod, wrth iddo geisio aildrefnu ei gyllid.
Pe bai'r gwrthwynebiad yn cael ei ddyfarnu yn ddilys, byddai'r mater yn cael ei drosglwyddo i bwyllgor arolygu polisi a pherfformiad y cyngor.
'Sicrhau ein dyfodol'
Dywedodd Mr O'Brien wrth gyfarfod y clwb bod Morgannwg yn "agos iawn i sicrhau ein dyfodol yn ariannol".
Fis diwethaf, cyhoeddodd y cyngor ei fod wedi cymeradwyo dileu £4.4m o'r £6.4m sy'n ddyledus iddo gan y clwb.
Roedd Morgannwg wedi gofyn i gredydwyr ddileu 70% o'r arian sy'n ddyledus gan y clwb, a chytuno i aildrefnu'r 30% sy'n weddill.
Mae credydwyr eraill y clwb - Allied Irish Bank a'u cyn-gadeirydd Paul Russell - hefyd wedi cytuno i ddileu'r mwyafrif o'u dyled.
Straeon perthnasol
- 19 Mawrth 2015